Banner

Newyddion

Cael Swydd - Gweithdai Cyflogaeth

 

Mae cael swydd gyda chyflog teg yn bwysig iawn i bobl, ac mae’n gallu bod yn anodd i unigolion gydag anableddau dysgu ddod o hyd i swyddi gyda chyflog.

Mae’r mwyafrif yn credu bod hyn angen newid, dyma pam mae Tîm Trawsffurfio Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn helpu 6 Cyngor Gogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd i ddatblygu cynllun sydd yn cytuno be sydd angen newid er mwyn helpu mwy o bobl gydag anableddau dysgu mewn i waith.

 

Bydd y cynllun yn edrych ar:

Clwb Cerdded Llwybrau Llesiant

Rydym yn mynd ar daith gerdded ar y 13/07. Gall y clwb cerdded fod yn gyfle gwych i chi fentro allan i'r awyr agored, i gyfarfod pobl newydd ac i ddal fyny efo hen ffrindiau!

Taith yng nghanol y goedwig sydd wedi'i drefnu y tro yma, a byddwn yn cyfarfod yn Maes Parcio Tyn y Groes, Ganllwyd am 10:30 y bore. Cofiwch ddod a'ch bocs bwyd a dillad addas ar gyfer y tywydd. Hefyd, byddwn yn ddiolchgar am gyfraniad o £2 y sesiwn i fynd tuag at ein grŵp cerdded.

Taith Clwb Cerdded - Trawsfynydd

Mae'r tîm yn cychwyn clwb cerdded yn Nhrawsfynydd wythnos nesaf. Bydd y clwb cerdded yn cychwyn am 10:30yb ar y 25/05. Gall y clwb fod yn gyfle gwych i chi fentro allan i'r awyr agored, i gyfarfod pobl newydd ac i ddal fyny efo hen ffrindiau!

Bydd y grŵp yn cychwyn gyda taith o amgylch Llyn Trawsfynydd. Cofiwch ddod a'ch bocs bwyd a dillad addas ar gyfer y tywydd. Hefyd, byddwn yn ddiolchgar am gyfraniad o £2 y sesiwn i fynd tuag at ein grŵp cerdded.

Taith Clwb Cerdded - Dolgellau

Mae'r tîm yn cychwyn clwb cerdded yn ardal Dolgellau wythnos nesaf. Bydd y clwb cerdded yn cychwyn am 10:30yb ar y 18/05. Gall y clwb fod yn gyfle gwych i chi fentro allan i'r awyr agored, i gyfarfod pobl newydd ac i ddal fyny efo hen ffrindiau!

Bydd y grŵp yn cychwyn gyda taith ar hyd llwybr Mawddach. Cofiwch ddod a'ch bocs bwyd a dillad addas ar gyfer y tywydd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn a'r grŵp, cysylltwch gyda ni dros e-bost ar llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru, neu trwy'r dudalen 'cysylltu â ni' ar y wefan hon.

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021

Mae'n wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar y 10fed i'r 16eg o Fai.

Yn ystod yr wythnos, mi fydd Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo’r Pum Ffordd at Les wrth benodi diwrnod o’r wythnos ar gyfer pob un o 5 thema’r Pum Ffordd (gwelwch y poster ynghlwm).

Pob diwrnod mi fydd fideo yn cael ei rannu ar Facebook/Twitter y Cyngor gyda gwyneb cyfarwydd yn sôn am themâu’r diwrnod e.e. Cysylltu a pwysigrwydd y Pum Ffordd at Les yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â rhannu posteri gwybodaeth. 

Edrych ar ôl eich teimladau a'ch corff

 

Er mwyn i ni fod yn iach mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar ôl ein teimladau a'n corff. Mae lles emosiynol yr un mor bwysig a'n lles corfforol. 

Ar waelod y dudalen cewch hyd i lyfryn PDF hawdd ei ddeall sydd wedi cael ei ysgrifennu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (NHS). Cafodd y llyfryn ei ryddhau nol ym mis Ebrill 2020, ond mae'r wybodaeth a'r negeseuon sydd ynddi yn parhau i fod yn ddefnyddiol i ni gyd hyd heddiw.