Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn cynllunio ein gwaith ar sail angen lleol, a’r anghenion sydd heb gael eu cyfarch yn hanesyddol.
Mae Llwybrau Llesiant yn gweithio o fewn egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014). Os hoffwch ddarllen mwy am gynnwys y ddeddf cliciwch yma, neu os hoffwch ddarllen fersiwn hawdd ei ddeall o'r ddeddf cliciwch ar y linc ar waelod y dudalen.
Ein gweledigaeth
Drwy ymgysylltu gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr a staff/darparwyr y sector rydym yn llunio cynlluniau gwaith pwrpasol er mwyn cyfarch anghenion ystod eang o unigolion ar draws Gwynedd.
Er mwyn sicrhau bod pob ardal yn cael chwarae teg, mae’r prosiect yn cael ei rannu yn dri:
- Arfon
- Dwyfor
- Meirionnydd
