Banner

Amdanom ni

Pwrpas

Pwrpas y tîm Llwybrau Llesiant yw darparu ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sy’n ymateb i anghenion unigolion gydag anableddau dysgu’r sir. Rhan allweddol o’r gwaith yma felly fydd cynnal sesiynau i hybu llesiant positif corfforol, emosiynol a chymdeithasol.

 

Beth yw llesiant?

Mae llesiant yn golygu eich bod yn hapus, iach a chysurus yn eich bywyd a hefo’r hyn yr ydych yn ddewis a dymuno ei wneud.

Mae ein gwaith ni yn canolbwyntio ar 3 prif agwedd o lesiant:

  1. Corfforol – ein bod digon iach a heini i allu byw ein bywydau mor annibynnol a phosib.
     
  2. Emosiynol – ein bod yn hapus i drafod ein teimladau yn agored, a pharchu ein hunain ac eraill.
     
  3. Cymdeithasol – gallu siarad gyda pobl eraill, a chael y cyfleoedd i wneud ffrindiau newydd a mwynhau cwmpeini mewn amgylchedd saff.
Mae'r tîm yn canolbwyntio'n bennaf ar dri agwedd o lesiant
Ffigwr 1: Mae llawer o waith y tîm yn canolbwyntio ar hybu lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sut gall y tîm hybu llesiant unigolion gydag anableddau dysgu?

Mae Llwybrau Llesiant yn datblygu amryw o grwpiau a gweithgareddau ar draws Gwynedd ac ar lein. Pwrpas rhain yw hybu llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol unigolion gydag anableddau dysgu.

Drwy gymryd rhan mewn rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael, y gobaith yw y bydd llawer mwy o’r unigolion yr ydym yn weithio gyda nhw yn ymuno ar y llwybr tuag at les. Hefyd, gallwn ddefnyddio’r sgiliau yr ydym wedi dysgu a’r ffrindiau rydym wedi’i gwneud i’n helpu yn ein bywyd pob dydd.

Rydan ni’n gweithio efo unigolion gydag anabledd dysgu i weithio tuag at bethau sydd yn bwysig iddyn nhw. Gall hynny gynnwys cyfarfod pobl newydd, dod o hyd i waith gwirfoddol, hwyluso’r broses o ddarganfod cyrsiau yn y coleg a llawer mwy.

Cewch glywed mwy am y math o grwpiau a gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn eich ardal chi drwy glicio ar un ai Arfon, Dwyfor neu Meirionydd o dan deitl ‘Y Gwasanaeth’. Neu, cliciwch ar deitl ‘Newyddion’ i glywed storïau am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar.

 

Logo Cyngor GwyneddLogo Llwybrau Llesiant