Banner

Cydweithio

Ar y dudalen yma cewch hyd i wybodaeth am sefydliadau, partneriaid a mudiadau gall fod o ddiddordeb i chi.

Mae'r rhestr yn cynnwys sefydliadau sydd wedi eu lleoli ar draws Gwynedd, ac maent i gyd mewn un ffordd neu gilydd yn rhannu ein prif amcan ni, sef i hyrwyddo llesiant unigolion gydag anableddau dysgu.

Rydym yn adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd, felly os hoffwch chi enwebu mudiad/sefydliad plîs cysylltwch drwy'r dudalen 'cysylltwch â ni'.


Cynllun Cysylltu Bywydau Gwynedd a MônSymbol Partneriaid

Mae Cynllun Cysylltu Bywydau yn rhan o wasanaeth Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd ac yn cynnig gwasanaeth Cysylltu Bywydau ar draws Gwynedd a Môn.

Wedi ei sefydlu yn 2005, mae’r cynllun eisoes yn cynnwys nifer o alluogwyr sy’n cefnogi lleoliadau ar sail tymor hir, tymor byr, ysbaid a dydd.

Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar deulu yn rhannu eu cartref, bywyd teuluol, diddordebau, profiadau a sgiliau gyda unigolion bregus sydd eisiau ychydig o gefnogaeth i fyw mor annibynnol a phosib.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â nhw ar: 01758 704145, neu ewch i’w gwefan wrth glicio y linc yma - Gwefan Cynllun Cysylltu Bywydau.
 


Anabledd Dysgu CymruSymbol Mudiad Cenedlaethol

Elusen genedlaethol yw Anabledd Dysgu Cymru sydd yn cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar greu Cymru sydd yn gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn, person ifanc ac oedolyn gydag anabledd dysgu.

Mae llawer o’i gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd gwaith i unigolion, drwy rannu gwybodaeth am effeithiau bositif penodi unigolion gydag anableddau dysgu i’r cyflogwr ac i’r unigolyn ei hunain.

Ar eu gwefan cewch hyd i wybodaeth am ei gwaith, amryw o adnoddau hawdd i’w ddeall, a gwahanol hyfforddiant a digwyddiadau sydd ar gael i unigolion ar draws y wlad.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan wrth glicio ar y linc yma – Gwefan Anabledd Dysgu Cymru.
 


Awtistiaeth CymruSymbol Mudiad Cenedlaethol

Mudiad awtistiaeth cenedlaethol yw Awtistiaeth Cymru. Ei pwrpas yw i helpu i wella bywydau pobl awtistig a’u teuluoedd yng Nghymru.

Ar ei safle fe ddewch o hyd i wybodaeth ynghylch beth yw awtistiaeth, a pa wasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru. Mae’r wefan yn helpu darparu gweledigaeth a strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru ac mae ganddi ran allweddol mewn sicrhau fod Cymru yn wlad sy’n deall awtistiaeth.

Mae yna hefyd ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan wrth glicio ar y linc yma  – Gwefan Awtistiaeth Cymru.
 


Anheddau CyfSymbol Partneriaid

Sefydliad dielw ac elusennol yw Anheddau Cyf. Maent yn grymuso oedolion gydag anghenion cefnogol i fyw bywydau llawn yng Nghymru. Gallant gefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau, dysgu rhai newydd a gwneud penderfyniadau yn eich bywyd dydd i ddydd. 

Maent yn ymfalchïo’n hunain ar hybu annibyniaeth a chefnogi oedolion i fwynhau’r safon bywyd uchaf. Os ydych chi’n chwilio am staff profiadol a chyfeillgar i’ch cefnogi plîs cysylltwch â Anheddau i drafod eich anghenion.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan wrth glicio ar y linc yma  – Gwefan Anheddau Cyf.
 


Annedd NiSymbol Partneriaid

Gwasanaeth dydd sydd yn perthyn i Anheddau Cyf yw Annedd Ni. Mae Annedd Ni wedi’i leoli ym Mangor, ac mae’n cynnig amryw o sesiynau yn cynnwys drama, celf, cerdd, clwb cerdded a dawns. 

Yn ogystal, mae Annedd Ni yn cynnal cyrsiau sgiliau, maent wedi cynnig cyrsiau ar sgiliau bywyd, cyflogaeth a rheoli arian yn y gorffennol. Mae ymweld ag Annedd Ni yn cynnig cyfle gwych i gyfarfod ffrindiau newydd, datblygu sgiliau a thrio pethau newydd. Maent hefyd yn cynnal partis drwy’r flwyddyn, sydd yn ddigwyddiadau ‘sell out’ fel arfer!

Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan wrth glicio ar y linc yma  - Gwefan Annedd Ni.
 


Antur WaunfawrSymbol Partneriaid

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol sydd yn cynnig cyfleoedd iechyd a llesiant, hyfforddiant a gwaith o bob math i unigolion ag anableddau dysgu yn y gymuned leol.

Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd, yn ogystal â chynnig digon o amrywiaeth o gyfleoedd i’r unigolion, mae gan yr Antur nifer o fusnesau llewyrchus, a chaiff yr holl elw ei ail fuddsoddi yn ôl yn y gwasanaeth ac yn y gymuned.

​Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan wrth glicio ar y linc yma  – Gwefan Antur Waunfawr.

 


Seren Ffestiniog CyfSymbol Partneriaid

Mae Seren Ffestiniog Cyf yn gwmni sy’n darparu gofal anheddol yn ardal Ffestiniog ers 1996. Nawr, chwarter canrif yn ddiweddarach, mae’r cwmni yn sefydlog ac yn ffynnu o fewn y gymuned leol, gan greu cyfleodd newydd i oedolion gydag anawsterau dysgu drwy fywoliaeth cefnogol.

Darperir gwasanaethau dydd a chyfleoedd gwaith ynghyd a chefnogi tenantiaid yn eu cartrefi ei hunain. Mae ein cydgwmni, Gwesty Seren yn cynnig gwyliau â chymorth neu gwyliau ysbeidiol o fewn ein gwesty addasedig hygyrch, ac mae ar gael i’r rhai sydd yn dewis treulio ei amser hamdden yn archwilio’r ardal leol. Mae pob cynllun cefnogol yn cael ei deilwra i’r unigolyn er mwyn hybu annibyniaeth a chreu profiad positif.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan wrth glicio ar y linc yma - Gwefan Seren Cyf.

 


Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol Gogledd Cymru (GACGC)Symbol Mudiad Lleol

Mae Cymdeithas Cynghori ac Adfocatiaeth Gogledd Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau eiriolaeth yng Ngogledd Cymru ers 1997.

Ei pwrpas yw hybu a darparu cyngor ac eiriolaeth ar gyfer pobl sydd yn wynebu anfantais drwy anabledd, salwch, oedran neu eithrio cymdeithasol, sydd yn byw, yn enwedig ond nid yn unig, yng Ngogledd Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'w gwefan wrth glicio ar y linc yma - Gwefan Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol.

 


Ffrindiau GigiauSymbol Mudiad Cenedlaethol

Prosiect gan Anabledd Dysgu Cymru yw Ffrindiau Gigiau. Cynllun gwneud ffrindiau sydd yn cysylltu pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru gyda gwirfoddolwyr sydd yn rhannu’i diddordebau yw Ffrindiau Gigiau. 

Drwy hwyluso cysylltiadau a perthnasoedd newydd, bydd y cynllun yn cynyddu’r nifer unigolion sydd yn gallu mwynhau gigiau a digwyddiadau ar draws y wlad. Gyda llai o ddigwyddiadau ar gael ar hyn o bryd, rydym yn credu bod yr angen am gyfeillgarwch a cyswllt gyda ffrindiau mor bwysig ag erioed.

Am fwy o wybodaeth, ac i ddarganfod sut gallwch chi fanteisio ar y cynllun, ewch i’w gwefan drwy glicio ar y linc yma - Gwefan Ffrindiau Gigiau.

 


Pontio’r Cenedlaethau (Cyngor Gwynedd)Symbol Partneriaid

Prosiect gan Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd yw Pontio'r Cenedlaethau.

Bwriad pontio’r cenedlaethau yw dod a phobl o bob oedran at ei gilydd er mwyn datblygu a mwynhau gweithgareddau a phrosiectau ar draws y sir. Y gobaith yw bod dod a pobl o wahanol genedlaethau yn mynd i gryfhau cymunedau yng Ngwynedd.

Rydym yn gweithio ar amryw o brosiectau ac yn cyd-weithio â sawl partner allweddol megis Llwybrau Llesiant, Dementia Actif Gwynedd, Dawns i Bawb, ddim ond i enwi rhai. Mae ein prosiectau yn ceisio canolbwyntio ar les yr unigolion sydd ynghlwm a rydym yn gwneud hyn trwy grefftau, cerddoriaeth, chwaraeon a rhannu profiadau.

Os hoffwch glywed mwy am y prosiect, dilynwch y prosiect ar 'Twitter' - @cenedlaethau, neu cysylltwch drwy'r dudalen 'cysylltu â ni'.