Mae Llwybrau Llesiant yn datblygu amryw o grwpiau a gweithgareddau ar draws Gwynedd, mae rhain amrywio o grwpiau wythnosol i ddigwyddiadau un tro. Pwrpas y gweithgareddau yma yw hybu llesiant unigolion gydag anableddau dysgu, pe bai hynny’n les corfforol, emosiynol neu gymdeithasol.
Amserlen gweithgareddau
Pwrpas y dudalen yma yw rhannu gwybodaeth am rai o’r grwpiau a gweithgareddau mae’r tîm yn eu cynnal. Darllenwch yr amserlen isod i weld beth sydd ymlaen yn eich ardal chi, neu i weld pa sesiynau allwch chi ymuno efo yn rhithiol.
Effaith ein gweithgareddau
Dyma fideo yn cynnwys ambell gyfweliad gyda rhai o'r unigolion sydd wedi manteisio ar weithgareddau'r tîm Llwybrau Llesiant. Cliciwch ar y fideo isod i gael blas o effaith rhai o'n gweithgareddau.
Pa weithgareddau hoffech chi weld yn eich ardal chi?
Rydym o hyd yn agored i wrando ar eich syniadau. Os oes gennych unrhyw syniadau ynglŷn â gweithgareddau fyddech chi’n mwynhau, neu sydd angen yn eich cymunedau cysylltwch gyda ni ar e-bost llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru.