Banner

Gwybodaeth i ofalwyr

Mae Gwasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd a’r Tîm Llwybrau Llesiant yn teimlo’n gryf am gefnogi gofalwyr yn ogystal â unigolion sydd yn byw yng Ngwynedd.

Pwrpas y dudalen hon yw rhannu unrhyw wybodaeth rydym yn teimlo gallai fod o fudd i ofalwyr. Rydym yn adolygu'r dudalen yn rheolaidd, felly os hoffwch chi weld unrhyw wybodaeth benodol yn cael ei gynnwys plîs cysylltwch drwy'r dudalen 'cysylltwch â ni'.

Ein cyfrifoldeb

Mae gan wasanaethau cymdeithasol ddyletswydd i asesu anghenion gofalwyr am gymorth pan yn addas yn ôl y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Os hoffwch chi gael asesiad am gefnogaeth ymarferol neu emosiynol, cysylltwch a ni drwy’r dudalen ‘cysylltwch â ni’.

Yn ogystal, os ydych yn teimlo'ch bod yn ofalwr, gallwch ofyn am asesiad gofalwr, os nad ydym wedi cynnig un i chi yn barod. Dyma gyfle i chi drafod eich cyfrifoldebau gofalu â ni, fel y gallwn ni weld sut y gallech fanteisio ar gymorth neu wasanaeth ychwanegol.

Cewch chi benderfynu a ydych am gael eich asesu ar y cyd â'r person rydych yn gofalu amdano ynteu ar wahân.

Am fwy o wybodaeth ynglyn a hyn ewch i dudalen 'gofalwyr' ar wefan Cyngor Gwynedd drwy glicio ar y linc yma - Tudalen Gofalwyr Gwefan Cyngor Gwynedd. Hefyd, cewch wybodaeth am amryw o sefydliadau sydd yn cefnogi gofalwyr yn y ddogfen ddwyieithog sydd wedi'i atodi ar waelod y sgrîn.

 

Llinell Gymorth PBS

Mae  bywyd o dan gyfyngiadau Cofid-19 yn gallu bod yn ynysig ac yn unig. Mae’n helpu i siarad gyda rhywun sydd yn deall ein sefyllfa, a mae’n debygol mai teulu a ffrindiau fydd ein dewis cyntaf yn aml. Ond weithiau mae’n helpu cael siarad efo rhywun sydd yn diduedd, a gyda arbenigedd a phrofiad gyda sefyllfaoedd tebyg.

Gyda cefnogaeth gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae BILD (British Institute of Learning Disabilities) wedi datblygu llinell gymorth Positive Behaviour Support (PBS). Pwrpas y llinell gymorth yw rhoi cefnogaeth i deuluoedd, gofalwyr a staff gofal yn ystod cyfnod y Coronafeirws. 

Mae modd i gefnogwyr, gofalwyr a teuluoedd gysylltu gyda’r llinell gymorth i drafod eu sefyllfa, i drafod sut mae pethau’n mynd, i gael sicrwydd eu bod yn gwneud y pethau iawn, neu i drafod syniadau neu holi am gyngor mwy ymarferol.

I glywed mwy am y llinell gymorth PBS, ac i ddarganfod sut gallwch chi gysylltu â nhw, ewch i'w gwefan drwy glicio ar y linc yma - Gwefan Llinell Gymorth PBS.

 

Beth yw ‘Positive Behaviour Support’?

Nod PBS yw i wella safon bywyd unigolion a’r pobl o’i hamgylch. Mae PBS yn ddull o weithio sydd yn briodol yn enwedig pan mae rhywun yn ‘distressed’ neu yn ymddwyn mewn ffordd sydd yn heriol neu yn codi pryder.

Dyma fideo Saesneg gan y BILD yn rhoi cyflwyniad i PBS:
 

 

Grŵp Trawsffurfio Gwasanaeth Anabledd Dysgu Gwynedd

Mae’r Grŵp Trawsffurfio Anabledd Dysgu yn awyddus i gael aelodau lleyg i fod yn rhan o’r Grŵp.  Noder mai rôl gwirfoddol ydyw.

Pwrpas y Grŵp Trawsffurfio Anabledd Dysgu yng Ngwynedd ydi:

•    Sicrhau fod darparwyr / budd-ddeiliaid ac unigolion yn cydweithio a chyd-gynhyrchu’r gwaith o ddatblygu a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer oedolion efo anabledd dysgu yng Ngwynedd.  
•    Rhannu gwybodaeth
•    Penderfynu beth ydi blaenoriaethau’r maes anabledd dysgu am y flwyddyn.
•    Gweithio ar y cyd i ddatblygu Asesiad Anghenion.
•    Cefnogi a chyfrannu at yr agenda rhanbarthol a llawer mwy.

Fel rhan o ymrwymiad y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i gynnwys cymunedau mewn hybu llesiant ein dinasyddion, hoffwn gael Aelodau Lleyg gwirfoddol i fod yn rhan o’r Grŵp yma.  Bydd y rôl yn cynnwys dod a phersbectif mwy sylfaenol i waith y Grŵp; i feddwl fel aelod o’r cyhoedd; ac i chwarae rhan yn natblygiad ein gwaith fel Grŵp Trawsffurfio.

Os hoffwch glywed mwy am y rôl hon neu am y Grŵp Trawsffurfio, cliciwch ar y ddolen 'Grŵp Trawsffurfio Aelodaeth Allanol' ar waelod y dudalen hon, neu cysylltwch gyda ni dros e-bost ar llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru. 
 

Wythnos Gofalwyr Genedlaethol

Beth yw'r Wythnos Gofalwyr Genedlaethol? 

Ymgyrch blynyddol yw'r Wythnos Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth am fywyd fel gofalwr, y sialensau a'r heriau sy'n wynebu gofalwyr di-dal ac i gydnabod y cyfraniad mae gofalwyr yn gwneud i'w teuluoedd ac i gymunedau ar draws y DU. Mae'r ymgyrch hefyd yn helpu y rhai hynny sydd ddim yn gweld eu hunain fel pobl gyda cyfrifoldebau gofalu adnabod eu hunain fel gofalwyr, ac o ganlyniad cael mynediad i gefnogaeth emosiynol neu ariannol.

Pryd mae'r Wythnos Gofalwyr Genedlaethol?

7-13 o Fehefin.

Beth sydd yn digwydd yn ystod yr wythnos?

Mae yna ystod eang o ddigwyddiadau a sesiynau yn mynd ymlaen yn ystod yr wythnos. Mae'r holl sesiynau ar gael yn rhad ac am ddim. Os hoffwch fwy o wybodaeth neu i chwilio am beth sydd ar gael yn eich ardal chi ewch i'w gwefan drwy glicio ar y linc yma - Gwefan Carers Week.
 

Diwrnod Lles Gofalwyr - 29/06/2021

Mae Gofalwyr Cymru yn falch iawn ac yn gyffrous i gyhoeddi ein diwrnod lles rhithwir arbennig ar-lein.

Hoffem wahodd gofalwyr di-dal i ymuno a ni i ddathlu'r gweithgareddau ymwybodol yr ydym wedi'u cael ar ein sesiynau Me Time a rhannu'r profiad hwnnw gyda gofalwyr eraill yn yr un sefyllfa.

Rydym yn cynnal diwrnod llawn o weithgareddau i gefnogi ymwybyddiaeth ofaglar a lles gofalwyr di-dal ar 29ain o Fehefin 2021. Mae pob sesiwn yn unigol a gallwch ymuno a chynifer neu gyn lleied ag yn dymunwch. Nid oes raid i chi ymrwymo i'r diwrnod cyfan.

Fydd y diwrnod wedi'i strwythuro fel hyn:

• 10.00 - 11.20 - Dawns I Pawb

• 11.30 - 12.50 - Ioga Dru

• 14.30 - 15.50 - Salsa i ddechreuwyr

• 16.00 - 17.20 - Ioga Chwerthin i pawb

• 17.30 – 18.50 – Zwmba i ddechreuwyr

• 19.00 – 20.20 - Ioga Qi Gong sesiwn blasu

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer y diwrnod lles gofalwyr cliciwch y linc canlynol - Tudalen Cofrestru Diwrnod Lles Gofalwyr.