Banner

Ein Hybiau

Beth yw hwb?

Mae gan y gwasanaeth anabledd dysgu nifer o hybiau cymunedol ar draws Gwynedd.

Hwb cymunedol yw’r term ydym ni’n defnyddio ar gyfer lleoliad ble mae unigolion gydag anableddau dysgu yn derbyn cyfleoedd dydd, cael cyfleoedd i fynychu digwyddiadau cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd mewn ffordd sydd yn agored i’r gymuned.

Mae hybiau yn ran pwysig iawn o ethos y gwasanaeth, ac yn ffordd newydd ac addas o integreiddio ein gwasanaethau gyda’r gymuned ehangach ac i greu cysylltiadau a pherthnasoedd gwerthfawr gyda thrigolion a sefydliadau. Rydym hefyd yn gobeithio bydd aelodau’r gymuned yn defnyddio’r hybiau i gynnal digwyddiadau cymunedol, a bod ein hybiau yn adnodd yn y gymuned am flynyddoedd i ddod.

 

Beth sydd yn digwydd yn ein hybiau?

Mae pob hwb yn wahanol, ac felly mae’r cyfleoedd sydd ar gael i’n unigolion yn amrywio o un hwb i’r llall. Dyma restr o’n hybiau, a’r oll sydd yn mynd ymlaen yno:

Enw'r Hwb

Lleoliad Disgrifiad
     
1. Cynllun Cymunedol Arfon Y Felinheli
  • Cyfleoedd dydd sydd wedi’u teilwra i unigolion ag anghenion mwy cymhleth sydd ar gael yn Cynllun Cymunedol Arfon.
     
  • Mae’r criw yn mwynhau cymryd rhan mewn sesiynau celf a chrefft, digwyddiadau cymdeithasol ayyb. Yn ogystal, mae Cynllun yn ymddwyn fel man cychwyn i lawer o unigolion sydd yn chwilio am brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddol.
     
  • Mae’r gwasanaeth wedi symud i safle newydd yn y Felinheli yn ddiweddar.
     
2. Cegin Arfon Caernarfon

 

  • Caffi sydd yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddi yn ogystal â llenwi boliau cwsmeriaid llwglyd yng nghanolfan hamdden Arfon.
     
3. Galwch Acw Caernarfon  
  • Siop grefftau a chelf sydd yn datblygu cyfleoedd gwaith a chyfleoedd creadigol yng nghanol tref Caernarfon.
     
4. Melin Glanrafon Parc Glynllifon

 

 

  • Mae criw’r Felin yn mwynhau ystod eang o weithgareddau ymarferol, gyda llawer ohonynt yn digwydd allan yr awyr agored pan mae’r tywydd yn caniatáu. Mae rhain yn cynnwys gwaith coed yn y gweithdy, celf a chrefftau, gwaith llafur, garddio a llawer mwy.
     
5. Canolfan y Gwystl Y Ffôr

 

 

  • Canolfan y Gwystl yw ein prif hwb yn ardal Dwyfor.
     
  • Mae’r ganolfan wedi mynd trwy gyfnod o drawsnewid yn ddiweddar, ac yn parhau i ddatblygu amryw o gyfleoedd newydd yn cynnwys gwasanaeth pryd ar glud, cegin Popty Prysur, salon trin gwallt a gwinedd a llawer mwy.
     
6. Canolfan Dolfeurig Dolgellau

 

​​​​​​​

  • Canolfan Dolfeurig yw ein hwb yn ardal Meirionnydd.
     
  • Mae Dolfeurig yn ganolfan aml-bwrpasol sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu ystod eang o gyfleoedd i unigolion yn yr ardal. Mae’r ganolfan yn gartref i weithdy Gwenyn Prysur, sydd yn creu cardiau a chrefftau deniadol.
     
  • Yn ystod y ddwy flynedd nesaf bydd y ganolfan yn cael ei ddymchwel a'i ail-adeiladu ar yr un safle.

 

Ble mae ein hybiau?

Mae ein hybiau cymunedol wedi'i lleoli o amgylch Gwynedd. Mae'r map isod yn dangos eu lleoliadau:

Map yn dangos lleoliad ein hybiau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hybiau, neu os hoffwch glywed mwy cysylltwch gyda ni ar: llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 682751.