Datganiad hygyrchedd gwefan Llwybrau Llesiant
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Llwybrau Llesiant, sef www.llwybraullesiant.cymru
Cyngor Gwynedd sy'n cynnal y wefan, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (er enghraifft NVDA)
Adborth a manylion cyswllt
Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â:
e-bost: llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru
ffôn: 01286 682 751
Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r wefan
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni: llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (Cyswllt allanol).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni. Os hoffwch gysylltu a’r gwasanaeth anabledd dysgu yn uniongyrchol, y cyfeiriad e-bost yw: ADLD@gwynedd.llyw.cymru.
Os hoffwch gysylltu â ni dros y ffôn, y rhif yw: 01286 682751.
Mae modd cysylltu drwy’r wefan www.llwybraullesiant.cymru hefyd, cliciwch ar y dudalen ‘cysylltwch â ni’ a cyflwynwch eich neges.
Mae dolenni cyflwyno sain ar gael yn nerbynfeydd Siop Gwynedd.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2).
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (cyswllt allanol) o ganlyniad i'r enghreifftiau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.
Nid yw’r cyferbyniad lliw yn ddigonol mewn rhai rhannau o’r wefan. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 AA creiteria 1.4.3 (Cyferbyniad). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uchel yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae rhaglen waith mewn lle er mwyn cyfarch y materion sydd wedi eu nodi yn y datganiad hwn. Bydd unrhyw ffeiliau PDF newydd yn cael eu profi cyn cael eu gosod ar y wefan.
Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd er mwyn adrodd ar ein cynnydd.
Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 26 Ionawr 2021.
Cafodd holl dudalennau y wefan eu profi ddiwethaf ar 22 Ionawr 2021 gan ddefnyddio profion-llaw a defnydd o technoleg fel ‘WAVE web accessibility evaluation tool’.
Fe brofwyd:
Pob tudalen ar y wefan
Pob PDF ar y wefan