Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021

Poster Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021

Mae'n wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar y 10fed i'r 16eg o Fai.

Yn ystod yr wythnos, mi fydd Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo’r Pum Ffordd at Les wrth benodi diwrnod o’r wythnos ar gyfer pob un o 5 thema’r Pum Ffordd (gwelwch y poster ynghlwm).

Pob diwrnod mi fydd fideo yn cael ei rannu ar Facebook/Twitter y Cyngor gyda gwyneb cyfarwydd yn sôn am themâu’r diwrnod e.e. Cysylltu a pwysigrwydd y Pum Ffordd at Les yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â rhannu posteri gwybodaeth. 

Mi fydd yr wythnos yn cyd-fynd ac yn gyfle da i hyrwyddo’r llyfryn ‘Edrych ar ôl fy hun’ 2021 a gobeithio yn gwneud i bobl feddwl am eu iechyd meddwl/llesiant a’r pwysigrwydd o edrych ar ôl eu hunain. Cliciwch ar y linc yma i gael mynediad i'r llyfryn - Llyfryn Edrych ar ôl fy hun 2021

 

 

Poster Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021