Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021
Mae'n wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar y 10fed i'r 16eg o Fai.
Yn ystod yr wythnos, mi fydd Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo’r Pum Ffordd at Les wrth benodi diwrnod o’r wythnos ar gyfer pob un o 5 thema’r Pum Ffordd (gwelwch y poster ynghlwm).
Pob diwrnod mi fydd fideo yn cael ei rannu ar Facebook/Twitter y Cyngor gyda gwyneb cyfarwydd yn sôn am themâu’r diwrnod e.e. Cysylltu a pwysigrwydd y Pum Ffordd at Les yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â rhannu posteri gwybodaeth.