Taith Clwb Cerdded - Dolgellau
Mae'r tîm yn cychwyn clwb cerdded yn ardal Dolgellau wythnos nesaf. Bydd y clwb cerdded yn cychwyn am 10:30yb ar y 18/05. Gall y clwb fod yn gyfle gwych i chi fentro allan i'r awyr agored, i gyfarfod pobl newydd ac i ddal fyny efo hen ffrindiau!
Bydd y grŵp yn cychwyn gyda taith ar hyd llwybr Mawddach. Cofiwch ddod a'ch bocs bwyd a dillad addas ar gyfer y tywydd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn a'r grŵp, cysylltwch gyda ni dros e-bost ar llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru, neu trwy'r dudalen 'cysylltu â ni' ar y wefan hon.