Trawsfynydd

Taith Clwb Cerdded - Trawsfynydd

Mae'r tîm yn cychwyn clwb cerdded yn Nhrawsfynydd wythnos nesaf. Bydd y clwb cerdded yn cychwyn am 10:30yb ar y 25/05. Gall y clwb fod yn gyfle gwych i chi fentro allan i'r awyr agored, i gyfarfod pobl newydd ac i ddal fyny efo hen ffrindiau!

Bydd y grŵp yn cychwyn gyda taith o amgylch Llyn Trawsfynydd. Cofiwch ddod a'ch bocs bwyd a dillad addas ar gyfer y tywydd. Hefyd, byddwn yn ddiolchgar am gyfraniad o £2 y sesiwn i fynd tuag at ein grŵp cerdded.