Cael Swydd - Gweithdai Cyflogaeth

Logo Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

 

Mae cael swydd gyda chyflog teg yn bwysig iawn i bobl, ac mae’n gallu bod yn anodd i unigolion gydag anableddau dysgu ddod o hyd i swyddi gyda chyflog.

Mae’r mwyafrif yn credu bod hyn angen newid, dyma pam mae Tîm Trawsffurfio Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn helpu 6 Cyngor Gogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd i ddatblygu cynllun sydd yn cytuno be sydd angen newid er mwyn helpu mwy o bobl gydag anableddau dysgu mewn i waith.

 

Bydd y cynllun yn edrych ar:

  • Gweithio a budd-daliadau - helpu gwneud yn siŵr fod gwerth mewn gwaith
  • Cefnogaeth - helpu chi ddod o hyd i, ennill, dysgu a chadw swydd
  • Y swydd orau i chi - gwneud y mwyaf o sgiliau a gallu pobl
  • Cyflogwyr mawr - gwneud yn haws i bobl weithio i gwmnïau mawr

 

Sut gallwch chi helpu?

  • Mynychu cyfarfod i drafod gyda phobl eraill, bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal rhwng yr 18fed a’r 22ain o Hydref 2021 (mae dyddiadau, amseroedd a lleoliadau i’w gweld yn y PDF ‘Having a Job’ ar waelod y dudalen hon).
  • Ymuno gyda chyfarfod Zoom (ar gyfrifiadur) gyda phobl eraill, bydd y cyfarfodydd Zoom hefyd yn cael eu cynnal rhwng y 18fed a’r 22ain o Hydref 2021 (mae dyddiadau, amseroedd a ‘passwords’ i’w gweld yn y PDF ‘Having a Job’ ar waelod y dudalen hon).
  • Neu, gallwch chi drafod cyfleoedd gwaith gyda chriw o bobl rydych yn adnabod, fel criw adfocatiaeth. Defnyddiwch yr ‘engagement toolkit’ sydd wedi’i atodi ar waelod y dudalen hon i ysgrifennu nodiadau, a gyrrwch ymlaen i Learning.Disability.Transformation@flintshire.gov.uk.