Clwb Cerdded Llwybrau Llesiant

Rydym yn mynd ar daith gerdded ar y 13/07. Gall y clwb cerdded fod yn gyfle gwych i chi fentro allan i'r awyr agored, i gyfarfod pobl newydd ac i ddal fyny efo hen ffrindiau!

Taith yng nghanol y goedwig sydd wedi'i drefnu y tro yma, a byddwn yn cyfarfod yn Maes Parcio Tyn y Groes, Ganllwyd am 10:30 y bore. Cofiwch ddod a'ch bocs bwyd a dillad addas ar gyfer y tywydd. Hefyd, byddwn yn ddiolchgar am gyfraniad o £2 y sesiwn i fynd tuag at ein grŵp cerdded.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn a'r grŵp, cysylltwch gyda ni dros e-bost ar llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru, neu trwy'r dudalen 'cysylltu â ni' ar y wefan hon.

Edrychwn ymlaen i weld chi gyd!

Poster Clwb Cerdded Ganllwyd