Holiadur Digwyddiad Cyflogaeth ar gyfer Pobl Awtistig

Logo Awtistiaeth Cymru

Mae'r Tîm Awtistiaeth yn cynllunio digwyddiad cyflogaeth ar gyfer pobl awtistig, bydd y digwydd yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig.  Os ydych yn dymuno bod yn rhan o’r broses gynllunio, cysylltwch efo'r Tîm Awtistiaeth drwy e-bostio: AwtistiaethCymru@WLGA.gov.uk. 

Os ydych yn awtistig, plîs ewch ati i lenwi'r arolwg drwy glicio ar y linc yma: Arolwg Digwyddiad Cyflogaeth. Yr arolwg yma yw un o’r camau cyntaf i gynllunio’r digwyddiad, a byddai'r tîm yn gwerthfawrogi unrhyw fewnbwn o ran cynllunio'r digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu hoffech roi adborth na chawsoch gyfle i'w roi yn yr arolwg hwn, cysylltwch a'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol drwy anfon neges e-bost at: AwtistiaethCymru@WLGA.gov.uk.