Mae’r Grŵp Trawsffurfio Anabledd Dysgu yn awyddus i gael aelodau lleyg i fod yn rhan o’r Grŵp. Noder mai rôl gwirfoddol ydyw.
Pwrpas y Grŵp Trawsffurfio Anabledd Dysgu yng Ngwynedd ydi:
• Sicrhau fod darparwyr / budd-ddeiliaid ac unigolion yn cydweithio a chyd-gynhyrchu’r gwaith o ddatblygu a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer oedolion efo anabledd dysgu yng Ngwynedd.
• Rhannu gwybodaeth
• Penderfynu beth ydi blaenoriaethau’r maes anabledd dysgu am y flwyddyn.
• Gweithio ar y cyd i ddatblygu Asesiad Anghenion.
• Cefnogi a chyfrannu at yr agenda rhanbarthol a llawer mwy.
Fel rhan o ymrwymiad y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i gynnwys cymunedau mewn hybu llesiant ein dinasyddion, hoffwn gael Aelodau Lleyg gwirfoddol i fod yn rhan o’r Grŵp yma. Bydd y rôl yn cynnwys dod a phersbectif mwy sylfaenol i waith y Grŵp; i feddwl fel aelod o’r cyhoedd; ac i chwarae rhan yn natblygiad ein gwaith fel Grŵp Trawsffurfio.
Os hoffwch glywed mwy am y rôl hon neu am y Grŵp Trawsffurfio, cliciwch ar y ddolen 'Grŵp Trawsffurfio Aelodaeth Allanol' ar waelod y dudalen hon, neu cysylltwch gyda ni dros e-bost ar llwybraullesiant@gwynedd.llyw.cymru.